Cynhyrchiad Theatr Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon

Te Angladd

Drama Perfformiadau yn Gymraeg

Ysgrifennwyd gan Gruffudd Owen

Cyfarwyddwyd gan Rhian Blythe

Hygyrch

  • Thu 4 Mar - 7:30pm BSL interpreted

Adolygiad

3-5 Mar 2027
7:30pm

Prisiau

£19.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed. Darganfyddwch Mwy.

Da chi’n gwybod bod chi’n mynd yn hen pan ‘da chi’n cael eich gwahodd i lai a llai o briodasau ac yn dechrau hel angladdau…

Ar ôl blwyddyn o gyfleoedd coll a thecsts ganol nos, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto… mewn angladd. Tra bod Lowri’n rhygnu byw ar y fferm ym Mhen Llŷn, mae Idris yn suddo i’w unigedd yn ei dŷ teras tamp yng Nghaerdydd. Ond ar ôl marwolaeth annisgwyl, mae’n rhaid i’r ddau ohonyn nhw wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol a gofyn y cwestiwn, “be ‘dw i isio go iawn?”

Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd gan Gruffudd Owen yn ddrama gomedi newydd am gariad, galar a gwirioneddau cudd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Parti Priodas, mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn dychwelyd fel Lowri, Idris a’r holl gymeriadau eraill, gyda’r cyfarwyddwr Rhian Blythe wrth y llyw.

Dyma ffarwel i’w gofio!