Suzi Ruffell: The Jungle

Comedi

Adolygiad

24 Chwef 2026
7.30pm

Prisiau

£18.50

Gwybodaeth Bellach

  • Oedran: 14+
  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Taith newydd sbon ydy The Juggle gan y comedïwr gyffesol sydd wedi ennill llu o wobrau, Suzi Ruffell.

Mae’n anodd bod yn dda drwy’r amser. Mam dda, merch dda, partner da, ffrind da, person da. I fod yn uchelgeisiol heb fod yn anhrugarog; i lwyddo heb gydymffurfio. Yn bartner addfwyn heb fod yn wan. I fod yn llewyrchus mewn bywyd a’i wneud i edrych yn hawdd. Jyglo. Mae Suzi wedi blino’n lân cyn iddi hyd yn oed ddechrau. Mae hon yn sioe stand-yp ac yn grŵp cymorth!

‘Sioe hynod ddoniol gan berfformiwr rhagorol’ – ★★★★ Evening Standard

Mae Suzi wedi ymddangos ar Live at the Apollo, The Jonathan Ross Show, The Last Leg a QI. Mae Suzi yn cyd-gyflwyno’r podlediad llwyddiannus Big Kick Energy gyda Maisie Adam a’r podlediad Like Minded Friends gyda Tom Allen, yn ogystal â’i phodlediad ei hun, OUT with Suzi Ruffell. Mae hi hefyd yn dod o hyd i’r amser i gyflwyno ar Virgin Radio. Cyhoeddir llyfr cyntaf Suzi, Am I Having Fun Now? ym mis Mehefin 2025.