Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Sunday in the Park with George

Musical Theatre

Ysgrifennwyd gan Stephen Sondheim

Cyfarwyddwyd gan Sarah Tipple

Archive

Adolygiad

30 Meh - 6 Gor 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Hyd: 2awr 25munud
Gwybodaeth pwysig

Mae’r sioe yma yn cynnwys golygfeydd treisgar, delweddau a chyfeiriadau at ryfel, cyfeiriadau at dreisio a/neu ymosodiad rhywiol, cyfeiriadau at drais domestig, goleuadau strôb, mwg neu effeithiau niwl ac iaith gref.

Gyda cherddoriaeth a geiriau hynod gyfoethog, y gallai ond Sondheim eu hysgrifennu, mae’r sioe gerdd hon yn archwilio cariad at y rheini sydd o’n cwmpas a’r awydd anniwall i greu.

Un o gampweithiau mwyaf adnabyddus Stephen Sondheim, mae Sunday in the Park with George yn dychmygu sut y daeth George Seurat i beintio ei waith enwocaf, A Sunday Afternoon on the Island of La Grande Jatte.

Gan ddechrau gyda chynfas gwag mae George yn arsylwi ac yn ceisio dal y cymeriadau sy’n mynychu’r parc, gan gynnwys Dot, model a chariad George. Ond faint allwn ni ei ddal mewn gwirionedd? Ydyn ni eisiau gweld y gwir neu argraff, a beth mae’r arlunydd yn ei aberthu?

Cerddoriaeth & Geiriau gan Stephen Sondheim
Llyfr gan James Lapine
Cyfarwyddwr Sarah Tipple