Steve Bugeja: Self Doubt (I Think)

Comedi

Adolygiad

8 Meh 2024
8yh

Prisiau

£15

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 110 munud

Mae crëwr a seren sitgom boblogaidd ITV2, Buffering, nôl ar daith yn dilyn taith lwyddiannus yn 2022 a rhediad clodwiw yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2023.

Mae wedi ymddangos ar Stand Up Central (Comedy Central), Zoe Ball On Sunday (ITV), Love Island: Aftersun (ITV2) ac wedi cyflwyno rhaglen BBC Radio 4, Economics with Subtitles. Eleni fe fydd yn trafod babanod, profion llygaid a phan aeth ar wyliau gyda 20 o fenywod.