Sprinkles

Crëwyd yn y Sherman Nadolig Theatr

Ysgrifennwyd gan Katie Elin-Salt

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund

Archive

Adolygiad

5 - 7 Rhag
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Oedran: I oedolion
  • Hyd: Tua 60 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad yma yn cynnwys Colled babanod, Galar, Dibyniaeth ac Iaith Gref.

Wledd i oedolion dros yr ŵyl.

“Sprinkles… mae dy ymddygiad yn y groto yn bell o fod yn addas i’r ŵyl”

Anghofiwch am bartïon diflas y swyddfa ac am y ffrae deuluol pan ddaw’r teulu ynghyd! Mae Sprinkles yn wledd i oedolion dros hwyl yr ŵyl ac yn sicr o wella’r holl dinsel a strancio. Ymunwch â ni ar gyfer y darlleniad wedi’i ymarfer sgript-mewn-llaw yma.

Coblyn yw Sprinkles. Mae hi’n gweithio yng Ngroto Siôn Corn ar Heol Eglwys Fair, rhwng y siop rhyw a John Lewis. Gyda phen tost yn dilyn noson fawr, ac yn sownd ar shifft gyda Band Aid yn ailadrodd. Hynny yw, nes i ymwelydd annisgwyl ddod i’r groto sy’n eu hatgoffa am orffennol Nadoligaidd poenus … a cholled ddwys sydd wedi’i chladdu ynddi am lawer rhy hir.

Wedi’i datblygu a’i chynhyrchu yn wreiddiol gan Dirty Protest yn 2018, gyda Charlotte Gray (The Crown) yn serennu – mae’r fersiwn newydd sbon o’r stori lawen a theimladwy hon yn wledd i oedolion dros yr ŵyl sydd wir ei hangen.

Bydd holl elw’r tocynnau o’r darlleniad sgript yma yn mynd tuag at elusennau sy’n cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan golled babanod – Ellie’s Gift, SANDS ac Antenatal Results and Choices (ARC).

Bydd gwybodaeth a chefnogaeth ar gael yng nghyntedd y Sherman yn dilyn y perfformiadau.

Cardiff SANDS – https://www.cardiff-sands.co.uk/
Antenatal Results and Choices (ARC) – https://www.arc-uk.org/
Ellie’s Gift – https://www.relaxwithlucy.co.uk/ellies-gift-app

Perfformiwr: Charlotte Gray
BSL gan Lisa Firstbrook (6 Rhag)
Cynhyrchydd: Peter Mooney