Adolygiad
Rhagolwg 14 - 16 Cyffrediniol: 17 - 21 Med 2024Prisiau
£16.50. O dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Stiwdio
- Iaith: Saesneg
Dyma ddrama am farwolaeth rhiant a phriod, sy’n cynnwys golygfeydd gall peri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Darganfyddwch fwy yma. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys effeithiau goleuadau strôb a defnydd o ddrylliau.
- Thu 19 Sep - 7:30pm Audio Described
- Thu 19 Sep - 7:30pm BSL interpreted
- Fri 20 Sep - 6:30pm BSL interpreted
Tad. Merch. Corff.
Yn hongian gyda’i gilydd mewn coedwig ddychmygol, mae Mali a David yn ceisio ymdopi â marwolaeth eu mam a’u gwraig sydd ar fin digwydd. Wrth i densiynau gorddi, mae eu perthynas fregus yn dechrau torri.
Mae Splinter gan Gemma Prangle yn datgelu aflonyddwch galar a sut mae natur yn llwyddo i’n cysuro ni yn ystod yr adegau hynny pan fydd cysuro ein hunain yn teimlo’n amhosib.
Mae’r ddrama’n serennu Nia Gandhi (Enola Holmes 2, Casualty, Pijin/Pigeon) a Rhys Parry Jones (House of the Dragon, A Very English Scandal, Eastenders), a chaiff ei gyd-gyfarwyddo gan Nerida Bradley a Matthew Holmquist. Dyma gynhyrchiad cyntaf Red Oak Theatre fel Cwmni Preswyl Theatr y Sherman.
“Wnes i ddim mynd ati i ysgrifennu drama am alar,” meddai Prangle am ei drama gyntaf hardd, “ond dw i’n meddwl weithiau bod ein profiadau personol i’w teimlo mor gryf yn ein cyrff nes bod y straeon hynny’n dod o hyd i ffordd o gael eu hadrodd.”
Ymunwch â ni ar gyfer y profiad teimladwy ac unigryw hwn, fis Medi yma.
Dehongliad BSL gan Julie Doyle – 19 a 20 Medi.
Sain Ddisgrifio gan Lowri Morgan – 19 Medi.
Mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i wneud mewn partneriaeth â COPE Community, sydd wedi darparu cymorth lles trwy gydol y broses. Hoffai Red Oak hefyd ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Philip Carne am eu cefnogaeth ariannol barhaus.