Mae Sue Timms, y broffwydes arobryn, boblogaidd yn ôl gyda’i band ffyddlon o ‘Sues’.
Ymunwch â Sue â’i phiano wrth iddi deithio ledled Cymru yn chwilio am wyrth. Dyma sioe ddyrchafol sy’n archwilio cyflwr ein cenedl; comedi gerddorol am unigrwydd sydd hefyd yn dathlu gwytnwch, caredigrwydd a grym y pethau bychain – wrth i ysbryd anorchfygol Sue newid y byd, un gân ar y tro.
Crëwyd gan Daf James, enillydd gwobrau Emmy a BAFTA, a’r tîm y tu ôl i’r sioe My Name is Sue, a ddisgrifiwyd gan The Stage fel cynhyrchiad na ddylid ei golli.
★★★★ (The Times)
★★★★ (Time Out)
★★★★ (The Scotsman)
Dyma gyflwyniad arbennig, symlach o’r sioe, wedi’i haddasu’n benodol ar gyfer Shedinburgh.