Unwaith fe ofynnodd rhywun gwestiwn twp iawn i Sindhu Vee. Mae hi eisiau dweud wrthych chi amdano.
Gan seren arobryn Live at the Apollo daw sioe stand-yp newydd sbon am syrthio trwy’r craciau na wnaethoch chi eu creu, osgoi’r cyfeillgarwch nad ydych chi eu heisiau, a chofleidio’r hunan-gariad sydd wir ei angen arnoch.
Mae tocynnau’n mynd ar werth 26 Medi 2025.
Ar werth yn gyffredinol
Dydd Gwener 26 Medi, 10am
Yn ei sioe Swanky, mae Sindhu Vee yn mynd â’i stand up “outspoken, frank and funny” (Evening Standard) ar draws y wlad, gyda’i thaith gyntaf o amgylch y DU mewn pum mlynedd.
Ers Alphabet 2021 – sydd bellach ar gael i’w ffrydio ar wefan Sindhu – mae’r digrifwr a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin wedi ymddangos ar QI, Have I Got News For You a Would I Lie To You? yn ogystal â serennu yn Sex Education Netflix a Matilda the Musical, a hefyd Pradeeps of Pittsburgh a Picture This sydd ar Amazon Prime.
Bellach yn un o ddoniau mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn rhyngwladol, gall gynulleidfaoedd y DU edrych ymlaen at ei sioe fwyaf soffistigedig, personol a chain hyd yma.
Cyflwynir gan Plosive Live mewn cydweithrediad â PBJ Management