“Weles i’r fflagiau coch, ac anwybyddu nhw”
Gan Theatr Red Oak, cwmni preswyl Theatr y Sherman, daw Sian De Bergerac – drama newydd chwerw, doniol a dinistriol gan y dramodwr Cymraeg Emma Cooney.
Yn sgil marwolaeth ei thad, mae Sian ar goll – tan mae hi’n dod ar draws cynnig rhyfedd: hysbysebiad swydd yn chwilio am rith awdur ar gyfer dynion ar appiau deitio.
Diolch i’w steil ysgrifennu rhamantus – mae hi’n cael y swydd. Swydd Catfish proffesiynol i swyno merched ar ran dynion cyfoethog. Wrth i Sian bypedu perthnasoedd i bobol ddiarth, mae hi’n dechrau colli gafael ar ei pherthynas hi. Pa mor bell wneith hi fynd i fodloni’r dynion yn ei bywyd? Ac ydi hi’n gallu dianc o’r galar?
Yn gwrthdaro agosatrwydd yr ystafell wely gyda’r byd cyflym o appiau deitio. Mae’r cynhyrchiad yma yn cael ei arwain gan ddyluniad a dyluniad clyweledol. Yn cymryd golwg anghyfforddus ar ramant gyfoes, hunaniaeth, a deinameg pŵer. Darlun o ddynes ifanc yn byw gyda galar, chwant, a’r byd afreal o catfishing. Mae Sian De Bergerac yn cwestiynu pa mor hawdd mae gofal yn troi mewn i orfodaeth, a be ‘da ni’n fodlon derbyn i osgoi bod ar ben ein hun.
Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tynnu i mewn i’r stori drwy ddyluniad uchelgeisiol ac ymdrwythol. Yn cyfuno perfformiad byw gyda thafluniadau, mae capsiynau creadigol wedi’w plethu mewn i ddyluniad fideo pob un perfformiad, yn sicrhau profiad theatrig taer, hygyrch a bythgofiadwy.
Mae’r cynhyrchiad yma wedi’w greu mewn partneriaeth gyda Silence Speaks Now ac Our Streets Now. Hoffai Red Oak hefyd ddiolch i Cyngor Celfyddydau Cymru, Philip Carne Foundation a’r Ashley Family Foundation am eu cefnogaeth.