Mae sioeau gan ein Theatr Ieuenctid yn llwyddo bob amser i ddwyn gwên i wynebau ein cynulleidfaoedd.
Daw pob un o’n grwpiau theatr ieuenctid (8-18 oed) at ei gilydd i gymryd drosodd Stiwdio’r Sherman gan weini hwyl diri ac egni diderfyn. Yr haf hwn, camwch i mewn i Sherman House ar gyfer comedi newydd brawychus gan Lowri Morgan a Davina Moss. Mae The Haunting of Sherman House yn cynnig adloniant i’r teulu cyfan.