Theatr JHOOM yn cyflwyno

Golygfa/Newid

Theatr

Hygyrch

  • Fri 15 Aug - 6:00pm BSL interpreted

Adolygiad

15 Awst 2025
6yh

Prisiau

Talwch Beth Fynnwch: £12, £8, £4

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Dathlwch y broses o greu theatr De Asiaidd yng Nghymru gyda JHOOM yr haf hwn yn ystod Mis Trefadaeth De Asia!

Yn dilyn ein sioe hynod lwyddiannus y llynedd, mae Golygfa/Newid yn ôl. Dyma’r rhaglen gyntaf o’i bath sy’n dathlu gwneuthurwyr theatr yng Nghymru sydd o dras De Asiaidd.

Bydd pedwar awdur o Dde Asia yn cynhyrchu sgript wreiddiol 15 munud yr un; y rhain yw Kia Shah, Priya Hall, Nadheem a Durre Shahwar. Fe’u cefnogir gan bedwar o ddramodwyr gorau Cymru, yn ogystal â mynychu gweithdai gydag Adran Lenyddol y Sherman. Byddwch yn cael cyfle i weld y dramâu newydd cyffrous hyn yn cael eu darllen am y tro cyntaf yn SJwdio’r Sherman, gyda chast a thîm creadigol o’r un gymuned. Bydd rhagor o fanylion am y dramâu a’r Mm yn cael eu rhannu’n nes at yr amser.

Bydd y perfformiad hwn yn cael ei dehongli gan BSL (dehonglydd i’w gadarnhau).

Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatr y Sherman.