Ar 18 Mehefin, rhwng 12pm a 4pm rydym yn nodi Wythnos y Ffoaduriaid gydag ein Dathliad Noddfa.
Bydd y digwyddiad yn dathlu’r cyfraniad mae Ceiswyr Noddfa yn ei wneud i’n cymuned ac yn amlygu’r pŵer sydd gan gymuned i newid y byd. Mae’r rhaglen brynhawn yn llawn dop â pherfformiadau gan ystod amrywiol o sefydliadau cymunedol, a gweithgareddau celf a chrefft hwyliog. Mae’r digwyddiad AM DDIM, yn agored i bawb, ac fe ddarperir lluniaeth. Nid oes angen archebu lle – galwch i mewn, byddem wrth ein boddau’n eich gweld chi. Mae Theatr y Sherman yn Theatr Noddfa.
Perfformiadau gan:
Oasis One World Choir
Kurdish All Wales Association
Ukrainian Singing circle
Sudanese Dance Group
Dovetail Orchestra