Theatr y Sherman a'r National Theatre

Romeo and Julie

Crëwyd yn y Sherman Sherman yn 50 Theatr

Ysgrifennwyd gan Gary Owen

Cyfarwyddwyd gan Rachel O'Riordan

Archive

Adolygiad

13 - 29 Ebr 2023
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 2 awr a 15 munud (yn cynnwys egwyl)
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol; yn delio a themau oedolion ac yn cynnwys golygfeydd gall rhai aelodau o’r gynulleidfa eu gweld yn drist. Am fwy o wybodaeth mewn manwl, cliciwch yma.

Stori garu gyfoes o Gaerdydd o’r tîm tu ôl Iphigenia in Splott a Killology.

☆☆☆☆☆ WhatsOnStage
☆☆☆☆☆ The Stage
☆☆☆☆ The Times
☆☆☆☆ The Telegraph
☆☆☆☆ Evening Standard
☆☆☆☆ The i
☆☆☆☆ Financial Times

Beiddgar. Doniol. Dirdynnol.

Mae Romeo yn dad sengl sy’n dal ‘mlaen am ei fywyd. Mae Julie yn ymladd er mwyn dilyn ei breuddwyd o astudio yng Nghaergrawnt.

Dau o bobl ifanc Caerdydd wedi’u magu ychydig strydoedd ar wahân – ond o fydoedd cwbl wahanol – yn disgyn mewn cariad am y tro cyntaf ac yn cael eu bwrw oddi ar eu echel. Ond ar groesffordd bywyd, mae teulu Julie yn ofni’r gwaethaf mewn byd sy’n anghyfartal ei gyfleoedd.

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wylio Romeo and Julie?
Mae cynulleidfaoedd wedi chwerthin a chrio wrth wylio’r stori garu fodern hon, yn ystod y perfformiadau clodwiw diweddar yn y National Theatre yn Llundain. Yn bryfoclyd ac yn deimladwy, mae Romeo and Julie yn olwg ffraeth ar yr hyn sy’n digwydd pan fydd llwybrau dau yn eu harddegau yn croesi yn Sblot, ac amgylchiadau’n bygwth gwahanu’r cwpl.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Romeo and Julie:
Efallai fod y teitl yn swnio’n gyfarwydd – ond mae hon yn stori newydd sbon
Mae Romeo and Julie yn defnyddio’r cysyniad o ddau berson ifanc mewn cariad dwys ac yn ail leoli’r ddrama yn Sblot. Mae’r grymoedd sydd yn gweithredu yn erbyn y cwpl ifanc yn wahanol iawn i’r rhai yn nrama Shakespeare, wrth i uchelgais ac emosiwn wrthdaro.

Mae’n aduno partneriaeth sydd wedi ennill Gwobr Olivier
Mae Romeo and Julie yn aduno’r bartneriaeth a fu’n deilwng o Wobr Olivier rhwng yr awdur Gary Owen a chyn Gyfarwyddwr Artistig y Sherman Rachel O’Riordan, a fu’n gyfrifol am y clasuron modern Iphigenia in Splott, Killology a The Cherry Orchard.

Mae wedi’i wreiddio’n gadarn yn Sblot
Mae Gary Owen, a fu’n byw yn Sblot am dros ddeng mlynedd, unwaith eto’n troi ei sylw at yr ardal. Efallai y bydd y lleoliadau yn y ddrama yn gyfarwydd i aelodau ein cynulleidfa yng Nghaerdydd, gyda golygfeydd yn digwydd mewn lleoliadau gan gynnwys y STAR Hub a thraeth Sblot.

Mae Romeo and Julie yn gyd-gynhyrchiad gyda’r National Theatre
Cyn ei rediad yn y Sherman, mi fydd Romeo and Julie yn y Dorfman Theatre, National Theatre o’r 14 Chwe – 1 Ebr.

Perfformir gan gast arbennig – “the acting is faultless” (The Stage)
Wedi eu harwain gan Callum Scott Howells (It’s A Sin Channel 4, Cabaret West End) fel Romeo a Rosie Sheehy (Bird Sherman Theatre, All’s Well That Ends Well RSC) fel Julie, Catrin Aaron (The Lovely Bones Birmingham Rep, Missing Julie Theatr Clwyd), Paul Brennen (A Discovery of Witches Sky, Happy Valley BBC) ac Anita Reynolds (The Lion, the Witch and the Wardrobe Sherman Theatre, A Monster Calls The Old Vic / Bristol Old Vic).

Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Cynllunydd Hayley Grindle (Iphigenia in Splott, A Christmas Carol Sherman Theatre), Cynllunydd Cyswllt Toots Butcher, Cynllunydd Goleuo Jack Knowles, Cynllunydd Sain Gregory Clarke, Cyfarwyddwr Staff Kwame Owusu a Hyfforddwr Tafodiaith Patricia Logue.

Dehongliad BSL ar 27 Ebrill gan Cathryn McShane