Yn seiliedig ar gyfieithiad J. T. Jones
“Ai dyna iaith dy galon?”
Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth.
Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod ffrae ffyrnig y teuluoedd Montagiw a Capiwlet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru – lle mae Cymraeg y Montagiws a Saesneg y Capiwlets yn gwrthdaro. Wrth i ieithoedd wahaniaethu ac uno, mae hen gweryl gwaedlyd yn ail-danio, y cosmos yn troi, a mae dau gariad anffodus yn gwynebu eu tynged. Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.
- 1 Hyd – BSL Cathryn McShane
- 1 Hyd – Pre show Deaf Theatre Club BSL Claire Anderson
AD Cymraeg yn unig.