Rob Auton ‘The Eyes Open and Shut Show’

Adolygiad

28 Chwe 2025
7.30yh

Prisiau

Cyffrediniol: £19

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Cyngor oedran: 14+

Daw Rob Auton, awdur, digrifwr ac actor arobryn, â’i sioe ddiweddaraf ‘The Eyes Open and Shut Show’ i’r Sherman.

Mae Rob wedi ysgrifennu deg sioe gomedi/theatr/gair-llafar poblogaidd ar gyfer Gŵyl Ffrinj Caeredin ar themâu penodol gan gynnwys y lliw melyn yn ‘The Yellow Show’, cwsg yn ‘The Sleep Show’ a gwallt yn ‘The Hair Show’.

Sioe am lygaid pan maen nhw ar agor a llygaid pan maen nhw ar gau yw The Eyes Open and Shut Show. Gyda’r sioe hon, gobaith Rob ydy archwilio’r hyn y gallai ei wneud iddo’i hun ac eraill gyda defnydd iaith pan fydd ei lygaid ar agor ac ar gau. Ar ôl ysgrifennu deg sioe ar themâu penodol, roedd am feddwl beth sy’n gwneud iddo agor ei lygaid a beth sy’n gwneud iddo gau ei lygaid.

Mae ei gredydau teledu yn cynnwys – Starstruck (BBC), Cold Feet (ITV), The End of the F*cking World (Netflix/Channel 4), Miracle Workers (TBS), The Russell Howard Hour (Sky), Stand-Up Central with Rob Delaney (Comedy Central).