Riot Act (Cynhyrchiad arlein)

Theatre

Ysgrifennwyd gan Alexis Gregory

Cyfarwyddwyd gan Rikki Beadle-Blair

Archive

Adolygiad

22 - 28 Awst
Ar unrhyw bryd

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: 75 munud
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys iaith a themâu aeddfed

Mae Riot Act yn sioe un person gair am air, a grëwyd yn gyfan gwbl o gyfweliadau gyda thri pherson allweddol yn hanes y mudiad hawliau LHDTC+; un o oroeswyr Terfysgoedd Stonewall, artist drag amgen o’r 70au, ac ymgyrchydd AIDS yn Llundain yn y 90au.

Yn dilyn sawl taith o amgylch y DU a pherfformiad arbennig yn y West End, a gafodd ganmoliaeth gan adolygwyr a chynulleidfaoedd, mae’r addasiad digidol hwn, a ffilmiwyd yn yr Hackney Empire hardd yn Llundain, sydd hefyd wedi’i ffrydio’n fyd-eang trwy stream.theatre a Broadway On Demand, yn brofiad sy’n eistedd rhwng theatr a sinema.

Mae’n antur syfrdanol a llawn twrw trwy chwe degawd o hanes cwiar, gan fynd a’r gynulleidfa ar daith hyd at y presennol. Mae’n ddathliad o weithredu cwiar ar draws y degawdau, sy’n ddoniol, yn ysbrydoledig…ac yn cadw reiat!

Ar gael i’w wylio ar-lein ac ar alw ar y wefan hon rhwng Awst 22 a 28.

Prynwch eich tocyn nawr a mewngofnodwch ar y dudalen hon unrhyw bryd rhwng 10yb ar Awst 22 ac 11yh ar Awst 28 i wylio’r sioe.