Richard Herring: RHLSTP

Comedi
Archive

Adolygiad

5 Maw 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 150 munud (yn cynnwys egwyl)
Gwybodaeth Bwysig

Efallai bydd y sioe yma yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau rhywiol.

Mae Richard Herring yn mynd â’i bodlediad mawr ei glod gan y beirniaid, RHLSTP, ar daith yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon yn 2023 a 2024!

Fel arfer yn West End pefriol Llundain, yn Leicester Square Theatre, mae ei bodlediad cyfweliadau’n cael ei recordio ond yn awr mae’n hel ei bac.
Daeth llwyddiant aruthrol i ran Richard Herring, yn awdur ac yn berfformiwr, ac mae’n torri tir newydd ym myd podlediadau. Dewch at y “Podfather” (Guardian), “King of the Internet” (Time Out) a “The UK’s online comedy pioneer” (The Times) fydd yn sgwrsio â gwesteion digri dat ddagrau, yn sêr bob copa walltog, mewn oedfannau drwy hyd a lled ein gwledydd.

Bydd RHLSTP yn ei weld yn sgwrsio â phennaf ddigrifwyr o flaen cynulleidfa fyw ar gyfer ei bodlediad ond mae’n cynnwys yr holl sgwrsio sy’n rhy ddadleuol i’w ddarlledu! Ymhlith gwesteion cynt bu Stephen Fry, Michael Palin, Katherine Ryan, Dawn French, Stephen Merchant, Kathy Burke, Grayson Perry, Nish Kumar a James Acaster. Mae’r sioe’n cael miliwn o lawrlwythiadau’r mis yn rheolaidd, enillodd dair Gwobr Comedi’r Rhyngrwyd Chortle ac mae’r unig sioe erioed heb ei gwneud gan y BBC i ennill Gwobr Comedi Orau Sony.