Actors Workshop

Replica

Theatr

Ysgrifennwyd gan Titas Halder

Cyfarwyddwyd gan Cian Marc

Archive

Adolygiad

5 Ebr 2024
12.00yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref a pheth iaith dreisgar.

Perfformiwyd gan Actors Workshop fel rhan o Connections 2024.

Mae mis Ebrill bob amser yn gyfnod cyffrous yn Theatr y Sherman. Eleni eto, bydd cwmnïau theatr ieuenctid o bob cwr o de Cymru yn ymgynnull yn y Sherman wrth i ni gynnal Gŵyl NT Connections.

I bawb sy’n hoffi theatr, cewch wledd o ysgrifennu newydd wedi’i berfformio gan dalent ifanc ddisglair. Bydd pob cwmni theatr ieuenctid yn cael y cyfle i berfformio, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Dewch draw i’r Sherman dros y gwanwyn i brofi dyfodol y theatr.

Darganfyddwch mwy am Replica a berfformir gan Actors Workshop:

Digwyddodd rhywbeth ar y trip ysgol. Mae un aelod o’r dosbarth wedi’i ddisodli gan union gopi o’i hun. Dyna beth mae pawb yn ei ddweud, ta beth. Unwaith mae si wedi dechrau, mae hi’n anodd weithiau i gofio beth sy’n wir – neu pwy. Yn sicr bod twyllwr yn eu plith, mae’r grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau yn benderfynol o ddatguddio’r dieithryn. Dyma ddirgelwch am gyfeillgarwch, natur gwirionedd, a dynoliaeth. Ar ddiwedd y dydd, sut wyt ti’n profi dy fod yn ddynol?