Peidiwch â cholli sioe gerdd gomedi pync newydd Leila Navabi, Relay, ar ffurf perfformiadau rhagddangos ecsliwsif yn y Sherman cyn iddi deithio i Ŵyl Ymylol Caeredin.
Mae’r awdur a’r rebel amlddisgyblaethol Leila Navabi yn dychwelyd i’r Fringe gyda Relay, stori am ddewis teulu a llwyddo er gwaethaf pob disgwyl. Gyda ffraethineb miniog a didwylledd tyner, mae hi’n rhannu’r stori wir o greu babi yn ei chartref gyda’i phartner, ei ffrind gorau fel y rhoddwr sberm, ac, yn naturiol, ei gariad yn cymeradwyo o’r ochr. Yn cynnwys chwe chân wreiddiol newydd sbon, mae Navabi yn archwilio cariad, uchelgais, a’r anhrefn o adeiladu teulu ar delerau eich hun. Gyda rhannau cyfartal yn hurt a dwfn, mae Relay yn brawf bod teulu yn fwy na’r hyn a grëwyd, mae e hefyd yn sut y crëwyd. Bu Leila gynt yn cefnogi Jessica Fostekew, Laura Smyth a Nish Kumar ar daith.
Leila Navabi yw derbynnydd cynllun Partneriaeth Genedlaethol Pleasance Caeredin gan Theatr y Sherman ar gyfer 2025.