Sioe gerdd newydd
Llyfr a thelyneg gan Stephen Beresford
Cerddoriaeth gan Christopher Nightingale, Josh Cohen a DJ Walde
Datblygwyd a chyfarwyddwyd gan Matthew Warchus
Yn seiliedig ar y ffilm Pathé
Rhagddangosiadau cyn y premiere byd-eang yn y National Theatre
Haf, 1984. Gyda glowyr ar streic ledled y wlad, mae’r ymgyrchydd 24 mlwydd oed Mark Ashton yn ceisio adfyddino criw o ddynion hoyw a lesbiaid annhebygol i ffurfio grŵp i gefnogi’r streicwyr dan warchae. Cyn pen dim, mae aelodau Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) yn dod yn rhan o fywyd pentref bach pwll glo yn ne Cymru.
Yr hyn sy’n dilyn yw stori wir ryfeddol dwy gymuned dan fygythiad yn uno – ac yn darganfod bod ganddyn nhw fwy yn gyffredin nag yr oedden nhw erioed wedi’i ddychmygu.
Yn ddoniol, ffyrnig a llawn calon, mae Pride yn uno cyfarwyddwr ac ysgrifennwr y ffilm wreiddiol, Matthew Warchus a Stephen Beresford, gyda’r cyfansoddwyr Christopher Nightingale, Josh Cohen a DJ Walde.
Gyda’i gilydd maent yn rhannu stori ysbrydoledig am ddigwyddiadau bywyd go iawn, wedi’i gosod i sgôr wreiddiol gyda chaneuon wedi’u hysbrydoli gan anthemau protest, pop, roc, disgo a thraddodiad corawl Cymru.
Tocynnau ar werth:
- Aelodau Sherman+ o ddydd Mawrth 11 Tachwedd
- Aelodau Sherman o ddydd Iau 13 Tachwedd
- Cyffredinol o ddydd Gwener 14 Tachwedd