Pinocchio

Teulu
Archive

Adolygiad

1 Meh
11yb & 1.30yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 60 munud, dim egwyl
  • Oedrannau: 4+

Dyma sioe i’r teulu cyfan wedi’i pherfformio gan gyn-gyfarwyddwr artistig Little Angel Theatre, Steve Tiplady. Ynddi mae pypedwaith, cysgodion, rhithiau a cherddoriaeth arbennig yn cael eu cyfuno i greu sioe sy’n ffraeth a dyfeisgar.

Mae Pinocchio yn cael ei gerfio’n fyw ar y llwyfan, mae brwsh yn troi’n llwynog ac mae cysgod dau lif yn troi’n siarc anferth wrth i Geppetto ddefnyddio gwrthrychau o weithdy’r saer i adrodd hanes y pyped sydd am fod yn fachgen go iawn, a’r gwneuthurwr pypedau sydd eisiau bod yn dad go iawn. Mae elfen o waith byrfyfyr yn gwneud pob perfformiad yn unigryw i’r gynulleidfa.

Mae Indefinite Articles, sydd wedi ennill llu o wobrau, ar flaen y gad ym Mhrydain gyda’u pypedwaith newydd ac wedi gweithio gyda’r RSC, Improbable Theatre a’r Mighty Boosh.