Theatr y Sherman

Pinocchio (Yn Gymraeg)

Crëwyd yn y Sherman Christmas Family Theatre

Ysgrifennwyd gan Jennifer Lunn

Cyfarwyddwyd gan Elan Isaac

Adolygiad

Rhagddangosiadau 7 Tach; 23 Tach 2026 - 2 Ion 2027
Amrywiaeth

Prisiau

£10

Gwybodaeth Bellach

  • Oedran: 3-6
  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Cymraeg

Fersiwn newydd gan Jennifer Lunn
Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman

Mae Pinocchio yn dyheu am gael bod yn fachgen go iawn, er mwyn gweld y byd mawr. Mae e eisiau bod ‘yn dda, yn garedig ac am ddweud y gwir’, ond ar ôl dweud celwydd bach mae ei drwyn yn tyfu ac mae’n mynd ar antur wyllt yn llawn peli eira, gemau gwirion, ffrindiau direidus newydd a llond trol o hwyl.

A fydd Pinocchio yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir ac yn cyrraedd adre mewn pryd i’r Nadolig?

Pinocchio yw’r cyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed a’u teuluoedd. Yn llawn dop â cherddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau poblogaidd a ddaw’n fyw diolch i gast o actorion-cerddorion. 

 

Perfformiadau Hygyrch:

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane

Disgrifiwr Sain: Michelle Perez

 

YN THEATR Y SHERMAN

23 Tach 2026 – 2 Ion 2027

(Rhagddangosiadau 6&7 Tach 2026) 

TOUR

9-10 Tach: Canolfan Soar Centre, Penygraig

11-12 Tach: Drill Hall, Cas-gwent

17 Tach: Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

19 Tach: Y Neuadd Les, Ystradgynlaig

21 Tach: Neuadd y Dref Maesteg Town Hall

 

Dyluniad poster gan Emily Jones