Theatr Genedlaethol Cymru

Parti Priodas

Perfformiadau yn Gymraeg Theatr
Archive

Adolygiad

20 - 26 Ebr 2024
7.30yh (7:00yh ar 24 Ebr)

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 1 awr (heb egwyl)
  • Iaith: Cymraeg (bydd pob perfformiad gyda chapsiynau agored yn Saesneg a Chymraeg)
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith gref, taniadau, goleuadau strôb, a themâu aeddfed. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…

Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, ac yn serennu Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.

Bydd hwn yn barti i’w gofio!

Bydd capsiynau agored ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn y perfformiadau i gyd. Bydd Sibrwd, yr ap mynediad iaith, ar gael ym mhob perfformiad hefyd.

Sgwrs ar ôl sioe:
22.4.24: Sgwrs ar ôl sioe i ddysgwyr Cymraeg.
25.4.24: Sgwrs ar ôl sioe.