OUT-RAGE-US! 2

Theatre

Ysgrifennwyd gan Chwech sgwennwr LHDTCRhA+

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund a Timothy Howe

Archive

Adolygiad

8 Meh
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth pwysig

Nodwch, mae’r sioe yn cynnwys iaith gref, anhwylderau bwyta, diwylliant diet, atgasedd corff, fatffobia, deuffobia, homoffobia, salwch meddwl, rhyw, a dibyniaeth.

Yn ystod Mis Pride ymunwch â ni i ddathlu straeon, lleisiau a pherfformiadau LHDT+.

Ar ôl sioe hynod lwyddiannus ym mis Chwefror eleni, rydym yn ymuno â Gŵyl Cwîr y Queer Emporium fel rhan o Ŵyl Fringe LHDTCRhA+ gyntaf Caerdydd a Chymru er mwyn dod â mwy o ddramâu OUT-RAGE-US i chi.

Bydd OUT-RAGE-US! 2 yn noson ddifyr o chwe drama ddisglair fer gan gasgliad o awduron a pherfformwyr LHDTCRhA+ cyffrous, i gyd yn dathlu Llawenydd Cwiar.

Buodd pob un o’r chwe awdur yn rhan o Weithdy OUT-RAGE-US ym mis Ebrill lle ymunodd awduron LHDTCRhA + â Chydymaith Llenyddol y Sherman, Alice Eklund, a Chydymaith Creadigol National Theatre Wales, Rahim El Habachi, mewn gweithdy ysgrifennu dramâu.

Bydd yr arian a gasglir am docynnau yn mynd tuag at y digwyddiad OUT-RAGE-US nesaf.

Cydweithrediad rhwng The Queer Emporium, Pride Cymru, Glitter Cymru, National Theatre Wales a Theatr y Sherman.