Noson Parti a Chwis y Sherman – WEDI’I GANSLO

Sherman yn 50
Archive

Adolygiad

Tachwedd 17 2023
7yh
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys hiwmor hŷn.

Gyda'r cyflwynydd gwadd arbennig Milly-Liu

Ymunwch â ni am barti mawr i gynnwys cwis heb ai ail, cerddoriaeth fyw wych a digon o gyfle i ddawnsio.

Yn dechrau’r noson fydd y canwr a’r gitarydd Tobias Robertson yn ein serenadau gyda’r caneuon gorau o’r hanner can mlynedd diwethaf.

Yn dilyn hyn, taniwch eich ymennydd yn ein cwis am wybodaeth gyffredinol, paratowch am gwestiynau ar deledu, diwylliant poblogaidd a digonedd o gwestiynau am yr hanner can mlynedd diwethaf. Yn arwain y cwis bydd neb llai na’r cyflwynydd gwadd arbennig (mae’n anodd credu ein bo’ ni wedi ei chael hi!) a seren y llwyfan a’r sgrin Milly-Liu.

Yna ymlaciwch neu ewch i ddawnsio wrth i’r parti barhau gyda chaneuon gorau 1973 hyd heddiw.

Bydd prydiau bwyd a byrbrydau blasus ar gael i’w harchebu drwy gydol y nos.

Dim ond £20 y tîm / bwrdd yw’r pris (hyd at bedwar o bobl fesul tîm). Os ydych am alw heibio i fwynhau’r awyrgylch, gallwch dalu ond £4 am docyn ‘galw heibio heb wneud y cwis’.

6.30yh i ddechrau am 7yh