Dewch i dreulio noson gydag un o unigolion pwysicaf ac eiconig diwylliant Cymru.
Sgwrs gyda Francesca Goodridge.
Mewn noson fywiog a diddorol o godi arian, bydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Francesca Goodridge, yn sgwrsio â’r sgriptiwr a’r cynhyrchydd Russell T Davies am ei fywyd, ei yrfa a’i effaith barhaol ar ddiwylliant Prydain. Byddant yn trafod lle ddechreuodd ei yrfa, gan gynnwys ei gyfnod yn y Sherman fel myfyriwr ôl-raddedig; ei waith yn creu rhaglenni teledu nodedig gan gynnwys Queer as Folk, Doctor Who ac It’s A Sin; ei berthynas â Chymru; ei broses greadigol a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd cyfle hefyd i chi gyflwyno cwestiwn ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb gyda Russell. Bydd yr arian a godwyd trwy werthu’r tocynnau yn mynd tuag at gefnogi gwaith Theatr y Sherman.
Ymunwch â ni i gefnogi’r Sherman mewn noson sy’n addo eich diddanu a’ch diddori.