NOSON GYDA CHIPPY LANE (Dathliad 10 mlynedd o greu theatr Gymreig)

Adolygiad

6 Maw 2026
7.30pm

Prisiau

£15. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.

Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Yn dathlu degawd o theatr Gymreig feiddgar wrth i Chippy Lane gyrraedd eu pen-blwydd yn 10 oed.

Am ddeg mlynedd, mae Chippy Lane Productions wedi annog ysgrifennu newydd Cymreig yn Gymru a Llundain. Mae’r pen-blwydd arbennig yma yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad dirgrynol un-noson-yn-unig! Ymunwch gyda ni am noswaith o ddarlleniadau sydd yn arddangos cyfoeth a phŵer adrodd straeon cyfoes Cymru. Llwyfannwyd gan gasgliad disglair o actorion, cyfarwyddwyr ag artistiaid fwyaf cyffrous y diwydiant.

Yn ystod y noson byddwn yn arddangos gwaith gan Gary Owen, Connor Allen, Faebian Averies, Katie Elin-Salt, Greg Glover, Jacob Hodgkinson, Paisley Jackson, Kevin Jones, Sherrall Morris, Martha Reed a Rhys Warrington. Mae hwn yn gyfle prin i brofi ysgrifennu newydd gwefreiddiol wedi ei berfformio gan gast anhygoel i gyd mewn un noson o ddathlu.

Sefydlwyd y cwmni yn 2016 gan yr actor-sgwennwr Rebecca Jade Hammond o Gaerdydd. Crëwyd Chippy Lane Productions er mwyn adeiladu cymuned o artistiaid Cymreig tu mewn a tu allan i Gymru i ddweud straeon Cymraeg yn driw. Wedi’i enwi ar ôl Stryd Caroline eiconig Caerdydd – a elwir yn annwyl yn Chippy Lane – mae’r cwmni’n tynnu ysbrydoliaeth o le sy’n fywiog gyda chymeriadau lliwgar a stryd llawn straeon hwyr y nôs.

Dros y degawd diwethaf, mae Chippy Lane wedi dod yn adnabyddus am feithrin talent sy’n dod i’r amlwg, hyrwyddo awduron benywaidd ac aneuaidd trwy Rhaglen Awduron Benywaidd Cymru, cynhyrchu gwaith newydd ac adeiladu cymuned trwy berfformiadau byw, podlediadau a nosweithiau sgratsh.

Ymunwch â ni am noson unigryw sy’n anrhydeddu’r gorffennol, yn dathlu’r presennol ac yn edrych yn feiddgar at ddyfodol theatr Cymru.

Bydd yr holl elw o’r digwyddiad yn cael ei roi i Calon Hearts a Tŷ Hapus, gyda’r holl artistiaid yn rhoi eu hamser a’u gwaith yn hael am ddim i gefnogi’r ddwy elusen Gymreig anhygoel hyn.