No Man’s Land: Park & Dare

Theatr

Ysgrifennwyd gan Rachel Trezise

Cyfarwyddwyd gan Matthew Holmquist

Adolygiad

23 - 25 Hyd 2025
Amrywiaeth

Prisiau

£10 - £12

Gwybodaeth Bellach

  • Age guidance: 16+
  • Language: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Y canllaw oedran ar gyfer y sioe hon yw 16+. Mae’r sioe yma yn mynd i’r afael â themâu camdriniaeth rywiol. Mae’n cynnwys rhai golygfeydd all beri gofid i’r gynulleidfa, cyfeiriadau at drais, misogynedd, homoffobia, trawsffobia ac iaith gref. Mi fydd y perfformiad hwn hefyd yn cynnwys goleuadau fflachio, strôb, niwl, synnau uchel a rhisgl coeden.

“You’ve got to get on with your life, Lew. Grudges won’t do you any good.”

Mae’r ysgrifenwraig arobryn Rachel Trezise yn cyfleu profiad bywyd Kyle Stead yn rhan o’r ddrama newydd sbon yma.
Wedi’i chyfarwyddo gan Matthew Holmquist.

Mae No Man’s Land yn ddrama seicolegol wefreiddiol newydd sy’n rhoi sylw i glwyfau cudd ysbryd sy’n ddeilchion. Mae’r frwydr i oroesi yn digwydd yn y meddwl.

Beth yw brawdoliaeth? Brawd mawr i’ch amddiffyn. Beth os nad yw’n gwneud hynny?

Mae’r ddrama wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda, rydyn ni’n dilyn hanes Lewis wrth iddo fynd ar daith drwy ddau fyd er mwyn darganfod yr hyn fydd yn glawr ar bennod yn ei fywyd. Byd o realaeth a thir neb, dystopia wedi’i sbarduno gan drawma sydd ond yn bodoli ym meddwl Lewis.

Beth sy’n digwydd pan mae’r byd yn dweud wrthych chi i fod yn ddewr ond mae pob rhan ohonoch chi yn ddeilchion?

“It never goes away. My whole body constantly on red alert.”

A fydd Lewis yn wynebu ei drawma neu’n parhau i fyw yn ei gysgod?

Cyd-gynhyrchiad rhwng Kyle Stead, Theatr y Sherman a Theatrau Rhondda Cynon Taf gyda chymorth gan Platfform.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae cymorth lles ar gyfer y cwmni a’r gynulleidfa wedi’i ddarparu gan Silence Speaks.

Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain y perfformiad: Stephen Brattan-Wilson

Bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar gyfer pob perfformiad.

 

www.rct-theatres.co.uk/cy/event/no-mans-land