Nick Mohammed: Mr Swallow

Comedi
Archive

Adolygiad

5 Mai
8:00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Lwyfan
  • Hyd: 85 munud
Rhybuddion Cynnwys Cynulleidfa:

14+

Rhywfaint o iaith gref

Nick Mohammed yn cyflwyno The Very Best and Worst of Mr. Swallow

Mae Nick Mohammed, seren Ted Lasso sydd wedi’i enwebu am ddwy wobr Emmy, yn mynd â’i hunan-arall Mr Swallow ar daith ar draws y DU am y tro cyntaf. Mae’r sioe wedi cael canmoliaeth fawr gan adolygwyr, ac mae’n gymysgedd o ddeunydd newydd, deunydd hen, deunydd hen iawn a deunydd na chafodd ei ddefnyddio o’r blaen. Disgwyliwch sŵn, mathemateg, hud a lledrith a Les Mis yn ei gyfanrwydd!

Nick Mohammed yw un o ddigrifwyr, actorion ac awduron mwyaf enwog y DU. Mae Nick wedi derbyn canmoliaeth frwd gan adolygwyr am sioeau blaenorol Mr Swallow, Dracula!, Houdini a The Vanishing Elephant ac mae Mr Swallow wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn y Dictionary Corner ar 8 Out of 10 Cats Does Countdown ar Channel 4, gyda chlipiau o’i berfformiadau’n mynd yn feiral yn gyflym. Ef yw awdur a seren Intelligence, cyfres boblogaidd Sky gyda David Schwimmer ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos mewn llu o gomedïau teledu gan gynnwys Stath Lets Flats, Inside No. 9 a This Time With Alan Partridge.