Caerdydd. Nawr.
Mae criw o ffrindiau’n cael eu galw i’r parc. Maent yn darganfod eu bod i gyd ar brawf. Pwy, yn eu plith, sy’n gyfrifol am farwolaeth Aaliyah?
…that last summer yw’r ddrama newydd gan Azuka Oforka, dramodydd The Women of Llanrumney, sef y ddrama arobryn, glodwiw a hynod lwyddiannus a Grëwyd gan Sherman. Trwy ddrama Azuka, mae’r Sherman yn cydweithio â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am yr unfed tro ar ddeg ar gyfer eu gŵyl NEWYDD.
Taith Cyffwrdd
Mawrth 9 Mehefin, 6.15pm
Cyn y perfformiad hwn, rydym yn cynnig Taith Cyffwrdd am ddim i helpu i drochi ein cynulleidfaoedd yn yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan mewn ffordd hwyliog. Mae hyn yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd yr effeithir arnynt gan golled golwg i ddod yn gyfarwydd â’r set, y propiau, y gwisgoedd, a chlywed gan y bobl sy’n creu’r sioe.