Monument

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan Rhys Warrington

Cyfarwyddwyd gan Francesca Goodridge

Adolygiad

29 Ion- 13 Chwe 2027
7:30pm

Prisiau

Mae seddi yn y Stiwdio yn cael eu dyrannu ar sail gyntaf i'r felin. Dewiswch Eich Pris: £16, £18 a £20. Gostyngiadau £2 off. O Dan 25 Hanner Pris.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Mae rhywbeth annirnadwy wedi digwydd…

Gyda llygaid y byd yn gwylio, mae trigolion Llanycoed yn ymgynnull yn eu Neuadd Pentref. Mae angen gwneud penderfyniad pwysig: a ddylid adeiladu cofeb – cofeb a allai ddiffinio’r pentref hwn am byth? Wrth i’r cwestiwn gael ei drafod, mae syniadau am genedligrwydd a chymuned yn cael eu profi ac mae tensiynau hirhoedlog yn cyrraedd pwynt berwi. Pan ddaw’r amser, pa ffordd y byddant hwy, ac yr un mor bwysig, chi, yn pleidleisio? Oherwydd gyda dau ddiweddglo amgen, mae eich pleidlais yn cyfrif mewn gwirionedd.

Mae drama gyfareddol Rhys Warrington, a gyfarwyddwyd gan Francesca Goodridge yn ei chynhyrchiad cyntaf fel Cyfarwyddwr Artistig, yn eich rhoi yng nghanol y weithred. Mae Monument yn bortread cyfareddol, caleidosgopig o gymuned wledig, sy’n gyffrous, yn ddoniol, yn annisgwyl ac yn ddwfn ddynol.

“Rwy’n teimlo’n hynod gyffrous ac yn anrhydeddus iawn i fod wedi ysgrifennu y ddrama gyntaf un tymor trydanol cyntaf Francesca Goodridge fel Cyfarwyddwr Artistig newydd y Sherman. Mae cael y cyfle i ddod â’r ddrama fawr gymhleth hon adref i Gymru, ac iddi eistedd ochr yn ochr â chynifer o artistiaid anhygoel eraill, yn freuddwyd go iawn yn dod yn wir. Fedra i ddim aros i ddechrau.” Rhys Warrington

Tickets

Sherman+ Members: 15 Sep 2026

Sherman Members: 17 Sep 2026

General Release: 18 Sep 2026