Adolygiad
23 - 31 Ion 2026Prisiau
Dewiswch Eich Safon Pris £15, £ 17, £20. O Dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.
Gwybodaeth Bellach
- Oedran: 14+
- Gofod: Stiwdio
- Iaith: Saesneg
- Hyd y sioe: 80 munud
Argymhellir 14+, yn cynnwys iaith gref, themâu i oedolion a phypedau noeth.
- Wed 28 Jan - 7:30pm BSL interpreted
- Thu 29 Jan - 7:30pm BSL interpreted
- Sat 31 Jan - 2:00pm BSL interpreted
Ddegawd yn ôl, heriodd pyped dwy droedfedd y byd – ac mae’n dal i ymladd.
Mae archebu â blaenoriaeth ar gyfer Meet Fred bellach ar agor cyn i docynnau fynd ar werth i’r cyhoedd ar ddydd Gwener (24 Hyd):
- Aelodau Sherman+ o Heddiw (21 Hyd)
- Aelodau’r Sherman ar ddydd Iau (23 Hyd)
Ar ôl teithio i 20+ o wledydd a phlesio miloedd o gynulleidfaoedd, mae Meet Fred yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig am daith y 10 mlwyddiant. Mae’r cynhyrchiad tywyll o ddoniol hwn, a dderbyniodd ganmoliaeth y beirniad, yn dilyn Fred, pyped o ddefnydd sy’n ceisio byw bywyd cyffredin–cael gwaith, cariad, bod yn rhan o gymdeithas. Ond gan fod ei Lwfans Byw Pypedau dan fygythiad, mae byd Fred yn troelli allan o reolaeth. Sut allwch chi gadw eich annibyniaeth pan fydd y system yn rheoli’r cortyn?
Gyda ffraethineb crafog, dychan gwleidyddol miniog, ac eiliadau o dynerwch annisgwyl, mae Meet Fred yn gomedi na ddylech ei cholli sydd wedi canu cloch gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi ei chreu gan y cwmni theatr cynhwysol Hijinx, mae’r sioe yn cynnwys cast disglair o berfformwyr gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a heb anableddau, y mae eu profiad bywyd yn rhoi dyfnder a dilysrwydd i ymdrech Fred.
Yn dathlu 10 mlynedd o wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, rhyfeddu ac ailfeddwl am y byd o’u cwmpas, mae Meet Fred yr un mor bwysig a pherthnasol heddiw ag erioed. Yn cynnwys iaith gref a phypedau noeth.
“Rhyfeddod gwirioneddol… gwylio hanfodol i bobl a phypedau ym mhobman.” – Total Theatre ⭐⭐⭐⭐⭐