Martin Decker: DAD

Theatr
Archive

Adolygiad

2 - 5 Meh 2025
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yma yn cynnwys themâu o Dadolaeth, dylanwad cyfryngau cymdeithasol, ymddieithried teulu, a marwolaeth.

Beth sy’n gwneud tad gwych? Mae Martin yn meddwl ei fod yn gwybod ac yn benderfynol o rannu’r wybodaeth. Mae’r daith ddoniol-dywyll, lawn teimlad hon yn archwilio’r tadau wnaeth siapio Martin – o Darth Vader i’w arwr yn ei blentyndod, Indiana Jones, o’r Tad Cŵl i Dad y Dawnsiwr.

Gan gynnwys ail greu ffilmiau yn fyw, dynwarediadau llai na pherffaith o Harrison Ford a gwahoddedigion annisgwyl ar y sgrin, mae’r sioe hon yn siarad â phob tad sydd erioed wedi ystyried a yw’n ddigon. Ond i Martin mae’n ymddangos bod llawer mwy yn y fantol – ai achub ei fab, neu ei achub ei hun sydd dan sylw?

Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.