Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn cyflwyno

Martha

Drama

Ysgrifennwyd gan Elise Davison a Stephanie Bailey Scott

Cyfarwyddwyd gan Elise Davison

Archive

Adolygiad

13 - 21 Meh 2025
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: BSL a Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys themâu aeddfed, defnydd cyson o iaith gref, golygfeydd sy’n dangos trais ysgafn, goleuadau llachar / goleuadau’n fflachio, curiadau swnllyd, tywyllwch a thawch. Am wybodaeth fwy manwl, cliciwch yma.

2055.

Mae’r Rhaglen wedi gyrru Byddardod dan-ddaear. Mae defnyddio iaith arwyddion wedi ei wahardd ac mae’n weithred brotest radicalaidd sy’n ennyn drwgdybiaeth a gorthrwm.

Ydy clwb cabaret Martha yn loches groesawgar i leiafrif gwaharddedig, yn noddfa i derfysgwyr posibl, neu’n rywbeth hyd yn oed yn fwy sinistr?

Wrth i Edith geisio sleifio i mewn i’r gymuned warchodedig hon, caiff ei byd i chwalu pan ddaw storïau cudd, cyfrinachau teuluol a chelwyddau’r wladwriaeth yn ffrwydrol i’r golwg.

Drama newydd ddeifiol gan cwmni theatr hygyrch arweiniol Cymru, bydd Martha yn cael ei berfformio yn Iaith Arwyddion Prydain sef BSL a Saesneg ar lafar gyda chapsiynau creadigol a sain ddisgrifiad integredig.