Mark Watson: This Can’t Be It

Comedi
Archive

Adolygiad

31 Ion
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: 1 awr 40 munud (yn cynnwys egwyl)
  • Gofod: Y Prif Dy
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yn cynnwys iaith gref.

Rydyn ni i gyd wedi gorfod meddwl tipyn am freuder bywyd yn ddiweddar, ond peidiwch â phoeni, mae’r trysor cenedlaethol tenau Mark Watson wedi meddwl droston ni.

Yn 41 oed, mae hanner ffordd trwy ei fywyd ar y ddaear, yn ôl yr ap disgwyliad oes y talodd £1.49 amdano. Mae’r bywyd hwnnw mewn siâp go dda ar hyn o bryd… ond erys un broblem, ac mae’n broblem enfawr.

Bydd ymchwiliad ysbrydol yn cwrdd â chomedi craff wrth i oroeswr y Taskmaster, enillydd sawl gwobr ac arweinydd cwlt No More Jockeys geisio trawsnewid blynyddoedd o orfeddwl yn noson o stand-yp. Efallai y bydd hyd yn oed yn datrys y broblem enfawr. Ond dwi’n amau hynny.