Mae’n eicon direidus o ‘Taskmaster’ sydd wedi perfformio stand-yp am 20 mlynedd ac wedi ennill gwobrau lu. Yn ffigwr poblogaidd ar YouTube a Radio 4 ac yn fwy diweddar yn aelod o gast ‘Baby Reindeer’, mae Watson yn dychwelyd ar ôl tymhorau yng ngwyliau comedi Adelaide, Melbourne, Sydney a Chaeredin.
Mae cyfarfod dieithryn yn ddiweddar yn arwain at gyfnod o fyfyrdod i Mark – cyfnod i ystyried dyfodol ansicr dynoliaeth. Hyn, yn ogystal â materion mor frys â thrafod y gair gwaethaf y mae erioed wedi ei ddweud yn gyhoeddus, cyflwr presennol diwydiant selsig y DU a llawer mwy yw cynnwys ei sioe newydd nodweddiadol ffyrnig a llawn hwyl.
★★★★★ ‘A genius-level comic doing what he does best’ Time Out Melbourne
★★★★★ ‘Quite unlike anything else I’ve seen in almost 20 years of covering the Fringe… witty, warm, perfectly judged’ Telegraph
★★★★ ½ ‘An hour or two of our limited span on Earth in his uplifting, witty company is time excellently spent’ Chortle
★★★★ ‘One of the most genuinely joyous presences in comedy’ The Times
★★★★ ‘This is a stand-up operating at the very top of his game’ Independent