Mae Phil McIntyre Live Ltd mewn cydweithrediad â Tin Cat Entertainment yn falch o gyflwyno:

Mark Thomas: 40 in Stand-up Years

Comedi

Adolygiad

31 Hyd 2026
8pm

Prisiau

£21.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Be?! Mae Mark Thomas wedi bod yn perfformio stand-yp ers 40 mlynedd? Amhosib!! Pa mor hen ydych chi felly…? Wel, er gwaetha’r modd, mae hyn yn wir; mae un o’n comedïwyr anghonfensiynol hynaf yn dathlu 40 mlynedd wrth y meic.

Felly, dyma grynodeb o bopeth mae e wedi’i gyflawni hyd yma, mewn niferoedd; 40 mlynedd yn perfformio comedi, 8 gwobr am berfformio, 4 am waith hawliau dynol, ac 1 a ddyfeisiodd iddo’i hun, 6 chyfres o Mark Thomas Comedy Product (Channel 4), 6 llyfr a 5 sgript drama, 5 cyfres o’r rhaglen Manifesto ar gyfer Radio 4, 3 rhaglen Dispatches ar gyfer Channel 4, wedi siwio’r heddlu (ac ennill) 3 gwaith, 2 arddangosfa gelf wedi’u curadu a’u hawduro gyda’r artist Tracey Moberly, ac 1 Record Byd Guinness am gynnal 20 protest mewn 24 awr. 

Os nad yw hynny’n ddigon, mae hefyd wedi cerdded 724km o amgylch Wal Israel yn y Lan Orllewinol, wedi cael y clod am newid y gyfraith ar osgoi treth, wedi dechrau clwb comedi ym Mhalestina gyda Dr Sam Beale ac wedi ymgyrchu’n llwyddiannusdros bethau fel cydnabyddiaeth undebau llafur i weithwyr sinema a chael cwmnïau rhyngwladol i newid eu harferion. Rydych chi’n iawn, mae ’na fwy, ond rydych chi’n dechrau colli diddordeb ac rydym ni’n rhedeg allan o le. Felly gadewch i ni gloiwrth ddweud, yn gyffredinol, mae wedi bod yn brysur yn mwynhau a chynhyrfu’r bobl gywir… rhywbeth y mae’n ei wneud yn dda iawn. 

Felly, yn syml, gallwch ddisgwyl blas o anhrefn llywodraethol a phersonol, jôcs, rantiau a darllediad personol ar gyflwr y genedl wrth iddo geisio troi ‘be’ f*ck sy’n digwydd’ yn awr gredadwy o stand-yp. 

★★★★★ “If you go knowing you are in for some intelligent but hilarious left-wing ranting with a few domestic issues thrown in, you will have a great time ” BRITISH THEATRE GUIDE

★★★★★ “A razor tight combination of political insight and universal observations that act as a reminder of what made Thomas one of the stand-out performers of his generation” THE REVIEWS HUB

★★★★★ “Still as angry, still as outrageous, still as funny… an explosive combination… achingly funny and deeply memorable… here’s to the next forty years, Mark!” SCOTS GAY ARTS

★★★★★ “As relentlessly energetic on stage as ever” ON THE MIC

★★★★★ “Brilliantly entertaining … nothing’s off the table” SINNERS MEDIA

★★★★★ “Outstanding Show” MERVYN STUTTER’S PICK OF THE FRINGE

★★★★ “This talented comedian has certainly not mellowed with age… an excellent way to spend an hour” DARK CHAT

★★★★ “Still strident & angry… to be this impassioned 40 years into his career is remarkable. A quality standup set ” FRINGE MONKEY

“Go see Mark while you can, you won’t regret seeing this genius comedian at the height of his comedic powers” ZOE THE BALL

Top 50 Funniest Comedians of the 21st Century – THE TELEGRAPH