Sioe gerdd-bync beiddgar a llawen wedi’i pherfformio gan un person am greu teulu cwiar ar eich telerau eich hun, wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan y digrifwr, awdur a’r cyfansoddwr a’i henwebwyd am wobrau, Leila Navabi.
Wedi’i chanmol gan feirniaid, cafodd y sioe ei chynnwys ar restr The Guardian o’r “10 Sioe Orau i Weld” yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn yr haf, ac fe’i henwebwyd hefyd ar gyfer Gwobr Ragoriaeth Brighton Fringe.
Mae Relay yn plethu stand-yp, cerddoriaeth electro-pop ac animeiddiad wedi’i dynnu â llaw i greu awr gynnes a doniol am yr hyn sydd ei angen i ddechrau teulu pan fo’r siawns (a’r system) yn eich erbyn. Mae Leila yn plymio i’r daith wyllt o greu babi gartref gyda’i phartner, ei ffrind gorau fel y rhoddwr sberm, ac, wrth gwrs, ei sboner ef yn cefnogi o’r ochr. Mae Navabi yn ymdrin â chariad, uchelgais a’r anrhefn sydd yng nghlwm ag adeiladu teulu ar delerau ei hun. Yn rannol wirion ac yn rhannol drawiadol, mae Relay yn profi fod y cwestiwn o sut mae teulu’n cael ei greu, yn gwestiwn mawr.
Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer sioe gyntaf Leila, Composition, yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2023, cyn cael ei throsglwyddo i Theatr Soho yn Llundain.
Canmoliaeth bellach am Relay:
★★★★ — Fest Magazine
“Smart and sharp punk musical comedy … Navabi handles the warmth with care … Relay leaves us with hope in the enduring generosity and support of our loved ones.”
★★★★ — The Skinny
“What is perhaps Navabi’s greatest talent, aside from her clean, high vocals and her whip-like wit, is her ability to put an audience at ease”
★★★★★ — The Student Newspaper
“The audience was lit up with smiling, teary faces.”
“A delightful and comic meditation on what it means to be a family… It’s impossible not to fall for Leila Navabi’s story” – The Stage
“A heartfelt story about dreams, hope and the importance of chosen family… Navabi’s performance is deeply honest and personal.” – Nation Cymru