Cymuned Dawnsfa Cymru x Theatr Genedlaethol Cymru

Kiki Cymraeg (Perfformiad Sgratsh)

Archive

Adolygiad

28 Maw 2024
8yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg a Saesneg
  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r perfformiad yn cynnwys iaith gref a themau aeddfed, cyfeiriadau at trawsffobia a chywilyddio corfforol, niwl (‘haze’) a goleuadau’n fflachio.

Beth sy’n digwydd pan chi’n cyfuno Dawnsfa a Theatr? Neu pan mae chwedlau hudolus y gorffennol yn cyfarfod perfformwyr chwedlonol heddiw?

Fel rhan o gydweithio cyffrous rhwng Cymuned Dawnsfa Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, bydd Kiki Cymraeg yn cynnwys perfformiadau gair llafar gan yr artistiaid Lauren Morais, Nina Bowers a Leo Drayton, sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn cwiar yng Nghymru heddiw.

Dan gyfarwyddyd Duncan Hallis a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Gen, Steffan Donnelly, bydd Llais Cymru, Kwabena 007, yn arwain y noson a bydd perfformiadau gan aelodau Cymuned Dawnsfa Cymru, yn cynnwys Leighton Rees Milan, Supreme Milan, Opulence Milan a Hollywood 007, ochr yn ochr â DJ Raven 007.