Josie Long: Re-Enchantment

Comedi
Archive

Adolygiad

14 Medi 2023
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Hyd: Tua 1 awr 40 munud
Gwybodaeth Pwysig

14+

‘Ar ôl cael eich trechu, mae cael eich swyno unwaith eto yn angenrheidiol’, meddai Lola Olufemi. Mae’r syniad hwn wedi ysbrydoli sioe stand-yp newydd sbon Josie Long sy’n llawn dyngarwch, tosturi ac ychydig o refru gwleidyddol.

Mae hi wedi ei henwebu deirgwaith am Wobr Gomedi Caeredin, yn arwr tawel yr Ŵyl Ymylol ac yn fam newydd orffwyll (y person cyntaf erioed i gael dau fabi) ac mae’n dychwelyd gyda sioe am y newidiadau a achosir gan amser, angerdd, symud i’r Alban, a charu’r byd o dan amgylchiadau anodd.

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, mae Josie wedi penderfynu cynnig rhai tocynnau am bris Talu Beth Allwch Chi/gostyngol, ar gyfer pobl sy’n teimlo na allant brynu tocynnau pris llawn oherwydd pryderon ariannol. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y sioe yn fwy hygyrch i’r rhai sydd am ddod. Bydd y tocynnau hyn yn cael eu gwerthu ar system anrhydedd yn unig – hyderwn na fydd y rhai nad oes angen y gostyngiad yn defnyddio’r nifer gyfyngedig hyn o docynnau. Mae maint yr elw yn dynn iawn, felly rydym yn gwerthfawrogi eich gonestrwydd. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i archebu’r tocynnau hyn.