Jordan Gray: Is It A Bird?

Comedi
Archive

Adolygiad

16 Medi 2023
7.30pm

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 110 munud (gyda egwyl)
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys noethni ac iaith gref.

Ar ôl 10 mlynedd yn y byd cerddoriaeth (ac ymddangosiad cofiadwy ar The Voice), yn sydyn mae Jordan Gray wedi dod yn un o gomediwyr mwyaf cyffrous ac enwog y DU.

Wedi gwerthu pob tocyn yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, perfformiad hanesyddol yn The London Palladium a pherfformiad cofiadwy ar Friday Night Live ar Channel 4, mae prif ddigrifwr trawsryweddol y DU yn dychwelyd i herio babanod, bronnau, Batman ac unrhyw berson cul yn y sioe gomedi gerddorol hon.

Ar ôl ennill Gwobr Comedy Breakthrough Star gyda Channel 4 yn ddiweddar, mae Jordan wedi cael sylw ar y BBC, ITV, Sky a Comedy Central, ac yn ddiweddar mae ITV wedi comisiynu peilot ganddo ochr yn ochr â Simon Pegg a Nick Frost.