Jordan Brookes: This Is Just What Happens

Comedy
Archive

Adolygiad

15 Medi
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yn cynnwys iaith gref.

Beth ydych chi’n ei wneud pan mae diwedd y byd wedi cyrraedd o’r diwedd, ond rydych chi’n sylweddoli ei fod yn mynd i ddigwydd mewn ffordd araf a diflas?

Dim streic meteor sydyn. Dim apocalyps sombïod cyffrous. Dim ond y bywyd roeddech chi unwaith yn ei nabod yn araf bylu. Fyddwch chi’n ymladd i drwsio pethau cyn iddi waethygu, gan roi eich bywyd i wneud y byd o’ch cwmpas chi’n lle gwell? Dim diolch! Rydych chi’n cau’r llenni, yn swatio’n glud, ac yn meddwl am rywbeth cachlyd ddywedodd rhywun wrthoch chi yn 2019.

Mae Enillydd Gwobr Comedi Caeredin (sydd wedi dal y teitl am yn hirach na neb o’r blaen) yn ôl gyda sioe newydd! Fel y gwelwyd ar Late Night Mash (Dave), Jonathan Ross ‘s Comedy Club (ITV), a’i sioe lwyfan arbennig ei hunan sy’n dod i Amazon Prime yn fuan.