John Kearns: The Varnishing Days

Comedi
Archive

Adolygiad

1 Chwe 2024
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Hyd: Tua 100 munud gydag egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yma yn cynnwys ychydig o iaith gref a phynciau sydd ddim yn addas i blant bach.

The Varnishing Days yw sioe newydd y comedïwr stand-yp serennog John Kearns. Sioe i atal eich calon, gollwng eich sbectol, colli eich gwallt, llyncu levothyroxine, cwympo’n bendramwnwgl, bwyta’ch het, codi ias, cyfiawnhau ac sy’n mynd ar draws ac ar hyd.

Ewch yn bwyllog tra af i ymhell! Cydnabyddwch pan fydd rhywbeth yn ddoniol! Ewch o ma’ tra’n trafod cynlluniau swper! Bydd y goblygiadau ar eraill. Cylchu bydd pwyntiau cyn eu colli’n gyfan gwbl. Myn uffern i, mae dyn yn ceisio ei orau! Pan ddof i’ch tref bydd cŵn yn dechrau cyfarth, heb anghofio’r offeiriaid. Bydd eich microdon ar chwâl. Bydd goleuadau eich cyntedd yn fflachio a bydd Banc Lloegr yn dechrau craffu’n ofidus ar gyfraddau llog. Heddiw wrth ysgrifennu hwn, mae’r bunt ar y lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler. Coeliwch chi fi. Fydd hon yn sioe i dorri’r record honno dro ar ôl tro.

Chortle ★★★★★
The List ★★★★★