Jay Rayner: NIGHTS OUT AT HOME – LIVE

Siaradwyr

Adolygiad

2 Tach 2024
7.30pm

Prisiau

Tocyn Safonol: £27.50, Llyfr a Thocyn: £40

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Ymunwch â Jay Rayner, awdur a darlledwr sydd o hyd yn chwaethus, yn aml yn ddoniol a’n ddarllenadwy ar bob achlysur wrth iddo gyhoeddi ei gofiant drwy ryseitiau Nights Out At Home i ddathlu 25 mlynedd fel critig bwytai arobryn gyda The Observer.

Drwy gydol chwarter canrif o fwyta’n broffesiynol yn rhai o fwytai gorau (a gwaethaf) y byd, mae Jay bob amser wedi dadansoddi ei hoff brydau bwyd; nawr mae’n barod i rannu’r goreuon ymhlith y ryseitiau hynny ynghyd â’i atgofion am y bwytai oedd wedi’u paratoi.

Yn y sioe orfoleddus hon bydd Jay yn ateb cwestiynau rydyn ni i gyd eisiau gofyn, wedi’u gofyn yn rhithiol gan westywyr enwog: pa arbenigedd sydd angen ar rywun i fod yn gritig ar fwytai? Beth yw’r ffordd orau i rostio cyw iâr? Ai snob llwyr ydy o? Ac os ydy o mor blydi glyfar, pam nad yw’n agor ei fwyty ei hun? Cewch chi hefyd gyfle i ofyn eich cwestiynau eich hun.

Mae Nights Out At Home yn siwrnai i roi blas, i gyffroi a rhoi mewnwelediad ar fywyd dyn sydd ag un o’r swyddi mwyaf dymunol yn y byd.

Mae pob Tocyn Pris Uwch yn cynnwys copi o Nights Out At Home wedi’i ARWYDDO
Sylwch, clawr dros dro yw’r siaced lwch.