Beth yw’r peth oren gorau yn y byd i gyd? Aperol spritz? Machlud haul? Claudia Winkleman? Mwy na thebyg dydych chi erioed wedi ystyried beth yw eich hoff beth oren, ond mi fyddwch yn meddwl amdano nawr!
Efallai mai marmalêd sy’n cipio’r wobr, neu Garfield, neu efallai’r albwm ‘Channel Orange’ gan Frank Ocean. Mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig. A does neb wedi ystyried y peth yn fwy nag Ivo Graham.
Mae Ivo Graham wedi hoffi pethau oren erioed. Ffa pob. Mayo blas sriracha. Llyfr The Tiger Who Came To Tea. Ond yn 2025, yn dilyn cyfres o ddyddiau emosiynol yn ei hoff liw, fe ysgogwyd Ivo i ymrwymo i’r lliw yn fwy nag erioed: fe benderfynodd gydlynu ei fywyd i’r lliw, a hynny er lles ei ferch, ei fam, ei dîm pêl-droed, ac, mae’n gobeithio’n wir, er mwyn ei diddanu chi. Dewch i helpu’r gwallgofddyn oren yma i greu ei restr oren, mewn sioe am hetiau, y rheiny sy’n ei gasáu, arwyr ei dref enedigol ac a yw Hare Krishnas yn well na Hobnobs.
‘Few stand-ups can waffle so winningly’ – The Telegraph
‘Graham in glorious technicolour’ – The Guardian