Theatr y Sherman a Frân Wen

Imrie

Perfformiadau yn Gymraeg Sherman yn 50 Theatr

Ysgrifennwyd gan Nia Morais

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans

Adolygiad

11 - 20 Mai 2023
Amseroedd Amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg (gyda capsiynau Saesneg a Cymraeg)
  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 1 awr a 15 munud, heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hyn yn cynnwys iaith gref, un olygfa o drais, themâu rhywiol, goleuadau’n fflachio ac effeithiau mwg.

Teulu. Hunaniaeth. Hud

Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth.

Mae Josie yn darganfod parti tanddwr hudolus sy’n well nag unrhyw barti gyda bodau dynol a fu ynddo erioed. Dyma fyd lle mae hi’n dod o hyd i’w gwir hunaniaeth – ac Imrie Sallow.

Uwchben y dŵr mae’n teimlo ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, gyda chwaer sydd eisiau iddi hi fod yn ‘hapus a normal’. Ond o gysgodion byd arallfydol, daw cyfrinach deuluol i’r amlwg sy’n newid popeth.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Imrie?
Mae Imrie yn stori hudolus i oedolion ifanc a rhai hŷn am obaith, hunaniaeth a’r hyn mae’n ei olygu i fod ar y tu allan. Gyda dyluniad set trawiadol, a cherddoriaeth bwerus, cewch eich cludo i fyd arall wrth i ni ddilyn dwy chwaer ar daith o hunanddarganfyddiad. Dyma waith amrwd a gonest yn Gymraeg, sy’n archwilio themâu cyffredin drwy lens hudolus.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Imrie:

‘Sgwennu newydd yn y Gymraeg
Daw Nia Morais, Awdur Preswyl y Sherman, â’i drama lawn gyntaf i’r llwyfan ar ôl iddi gyd-ysgrifennu elfennau Cymraeg A Midsummer Night’s Dream gyda Mari Izzard yn yr hydref. Mae llais cyfoes Nia yn cyfuno disgrifiadau telynegol â deialog Gymreig fodern.

Mae’n gyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen
Cyfarwyddir Imrie gan Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni. Yn flaenorol bu Gethin yn cyfarwyddo’r ddrama Gymraeg hynod lwyddiannus Woof gan Elgan Rhys ar gyfer Theatr y Sherman.

Clasur o stori am dyfu i fyny
Mae stori fythol, hyfryd Nia Morais yn ymwneud â hunaniaeth, beth mae’n ei olygu i ffitio i mewn a beth mae’n ei olygu i fod yn gyfforddus gyda phwy ydych chi, a’i gofleidio.

Pwy fydd yn mwynhau Imrie?
Bydd cynulleidfaoedd o bob oedran, o oedolion ifanc i rhai hŷn, yn cael eu swyno gan Imrie. Bydd yn apelio at unrhyw un sy’n mwynhau ffuglen i oedolion ifanc neu gwaith ysgrifennu newydd pwerus ar gyfer y llwyfan.

Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg i fwynhau Imrie
Gyda chapsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, gall siaradwyr newydd a rhai di-Gymraeg ddilyn y sioe drwyddi draw.

Cerddoriaeth gan Eädyth Crawford
Fe ysgrifennodd Eädyth y gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau diweddar Theatr y Sherman, The Merthyr Stigmatist ac A Midsummer Night’s Dream, ac mae wedi cyfansoddi sgôr newydd arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn.

BSL – 19 Mai gan Cathryn McShane

Taith
Theatr y Sherman, Caerdydd – 11 – 20 Mai
Canolfan Celfyddydau Pontardawe – 23 Mai
Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth – 24 Mai
Galeri, Caernarfon – 25 Mai
Theatr Clwyd, Wyddgrug – 6 Mehefin
Pontio, Bangor – 7-8 Mehefin
Torch, Aberdaugleddau – 10 Mehefin
Glan yr Afon, Casnewydd – 14 Mehefin
Yr Egin, Caerfyrddin – 15 Mehefin
Canolfan Garth Olwg, Pontypridd – 16 Mehefin