Theatr Genedlaethol Cymru

Ie Ie Ie

Drama Perfformiadau yn Gymraeg Theatr
Archive

Adolygiad

5 - 9 Chwe 2024
7.00yh / 7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 60 munud heb egwyl
  • Iaith: Cymraeg (bydd pob perfformiad gyda chapsiynau agored yn Saesneg ac yn Gymraeg)
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith gref, themau aeddfed a thrafodaethau am rhyw, pornograffi, ymosodiadau rhywiol a thrais.

Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd. Mae’r ddau bar yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu. Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.

Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aoteaora/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu. Dyma ddarn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.

Mewn cydweithrediad ag Aurora Nova
Comisiynwyd Yes Yes Yes yn wreiddiol gan Auckland Live