Theatr y Sherman a Hijinx

Housemates

Crëwyd yn y Sherman Sherman yn 50

Ysgrifennwyd gan Tim Green

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade

Archive

Adolygiad

6 - 14 Hyd 2023
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Theatr
  • Hyd: 1 awr ag 20 munud, heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys defnydd o dermau hen ffasiwn ar gyfer pobl anabl, ableddiaeth, iaith gref a disgrifiadau o gam-drin.

Caerdydd yn y 70au – Chwyldro a Roc a rôl

Yn yr 1970au, dafliad carreg o ddrysau’r Sherman, dechreuodd chwyldro. Chwyldro a wnaeth ysgwyd y byd.

Dechreuodd pan ddaeth Alan, dyn ifanc a aned â syndrom Down, i gysylltiad â Jim, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Roedd Alan wedi byw fel preswylydd yn Ysbyty Trelái ers ei blentyndod; ond y cyfan yr oedd Alan ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Roedd Jim eisiau gwneud gwahaniaeth yn y byd, ond nid oedd yn gwybod sut. Ar y cyd â’u ffrindiau, fe wnaethon nhw gychwyn arbrawf a drawsnewidiodd y system, gan newid sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrth eraill sut i fyw. Dyma ddechrau’r diwedd o ofal sefydliadol a dechrau Byw â Chymorth.

Fis Hydref eleni, daw Tim Green, Theatr y Sherman a Hijinx at ei gilydd i adrodd y stori wirioneddol ryfeddol hon o Gaerdydd. Mae Housemates yn cael ei pherfformio gan gast o actor-gerddorion niwro-amrywiol a niwro-nodweddiadol, ac fe fydd y stori yn syfrdanu ac yn cyffwrdd â’r galon. Dewch draw i’r Sherman i deimlo cyffro noson allan sy’n llawn caneuon poblogaidd o’r 70au.

Dehonglwr BSL: Tony Evans.
Bydd y dehonglwr BSL yn sefyll ar ochr dde’r llwyfan.
Ar Ddydd Iau 12 Hydref bydd cymorth BSL ar gael cyn y sioe, wedi’i ddarparu gan Claire Anderson.
Gwyliwch y trelar BSL

Disgrifiwr Sain: Ellen Groves.
Gwrandewch ar y daflen sain

Mae perfformiadau Housemates yn caniatáu sŵn a symud o fewn yr awditoriwm, yn ogystal ag ail-fynediad i unrhyw un sydd angen seibiant o’r perfformiad. Bydd ardal ymlacio ar gael a chlustffonau i amddiffyn clustiau os hoffech. Bydd goleuadau’r theatr bant yn ystod y perfformiad a bydd cerddoriaeth uchel yn ystod y sioe.

★★★★★ – Buzz
★★★★★ – Reviews Hub

Cefnogir Housemates gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cast