Sherman Theatre a Hijinx

Housemates

Made at Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Tim Green

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade

Adolygiad

3 Ebr - 13 Medi 2025
Amrywiaeth

Prisiau

Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys defnydd o dermau hen ffasiwn ar gyfer pobl anabl, ableddiaeth, iaith gref a disgrifiadau o gam-drin.

Mae’r ail-adrodd roc a rôl clodwiw o stori ryfeddol o Gaerdydd yn mynd ar daith.

Yn y 1970au, tafliad carreg o ddrysau’r Sherman, fe gychwynnodd chwyldro. Chwyldro a newidiodd y byd. Fe gychwynnodd y cyfan pan ddaeth Alan, dyn ifanc a anwyd gyda syndrom Down, yn rhan o fywyd Jim, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Alan wedi byw yn Ysbyty Trelái fel preswylydd ers ei blentyndod. Y cyfan roedd Alan eisiau oedd byw mewn tŷ a bod yn rhan o fand. Roedd Jim am wneud gwahaniaeth yn y byd, ond ni wyddai sut. Ar y cyd â’u ffrindiau, fe aeth y pâr ar siwrne a drawsnewidiodd sut roedd pethau’n cael eu gwneud, sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrthych sut i fyw eich bywyd. Dyma oedd dechrau diwedd gofal sefydliadol a chychwyn Byw â Chymorth.

Twymgalon, doniol a theimladwy tu hwnt, mae Housemates gan Tim Green yn dod â’r stori wir ryfeddol yma o Gaerdydd yn fyw ar y llwyfan. Wedi’ berfformio gan gast o actorion-cerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, mae Housemates yn byrlymu gydag egni ac yn cyffwrdd a’r galon. Ymunwch â’r Housemates y gwanwyn hwn am noson allan wych.

Bydd Housemates yn teithio i Theatr y Torch, Aberdaugleddau a Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Theatr y Torch, Aberdaugleddau: 2 – 4 Ebr 2025
Archebwch nawr
Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau
3 April: Perfformiad BSL – Dehonglydd BSL Tony Evans

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 9 – 13 Medi 2025
Archebwch nawr
Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau
11 Medi: Disgrifiad Sain
13 Medi: Perfformiad BSL

Cefnogir Housemates gan gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cast