HOUSE

Ysgrifennwyd gan Alex Marshall Parsons

Cyfarwyddwyd gan Alex Marshall Parsons

Archive

Adolygiad

20 - 22 Hydref
Amseroedd amrywiol

Golwg gyfareddol trwy dwll y clo, ar realiti undonog un cwpl cyffredin yn symud i'w cartref cyntaf gyda'i gilydd.

Mae HOUSE yn gynhyrchiad theatr gorfforol 20 munud sy’n rhad ac am ddim, sy’n hyrwyddo normaleiddio perthnasau LHDT+.

Mae’n digwydd o fewn set drawiadol, ac mae’r perfformiad yn adrodd stori y gall pawb uniaethu â hi, gan gyfuno dawns, symud a sgript, ynghyd â thrac sain gyda bas pwerus. Nid yw’r perfformiad yn benodol i unrhyw iaith, ac mae’n gynhwysol ar gyfer pob iaith a chynulleidfaoedd B/byddar. Bydd perfformwyr yn sgwrsio trwy gydol y sioe, fodd bynnag ni fydd modd clywed eu lleisiau.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Theatr y Sherman.